Math mab Mathonwy

Math fab Mathonwy oedd arglwydd Gwynedd a Phryderi mab Pwyll oedd arglwydd ar un cantref ar ugain yn y De. A'r rheini oedd saith cantref Dyfed, saith Morgannwg, pedwar Ceredigion a thri Ystrad Tywi. Ac yn yr amser hynny ni fyddai Math fyw os na fyddai ei draed yng nghroth morwyn, heblaw pan rwystrwyd ef gan gynnwrf rhyfel. A'r forwyn ag oedd gydag ef yr adeg hynny oedd Goewin merch Pebin o Ddôl Pebin yn Arfon. A hi oedd y forwyn tecaf a wybu amdani yn yr oes honno. Ef [Math] a rodiai yn wastad yng Nghaer Dathyl yn Arfon ac ni allai gyrchu ei deyrnas. Felly Gilfaethwy mab Dôn a Gwydion mab Dôn ei neiau, meibion ei chwaer, a'u teuluoedd gyda hwy, a gylchasant y wlad yn ei le.

A'r forwyn a oedd yn wastad gyda Math; ond Gilfaethwy mab Dôn a osododd ei bryd ar y forwyn a'i charu cyd-gymaint na wyddai beth i wneud o'i herwydd. Adfeiliodd ei wedd a'i ymarweddiad oherwydd ei gariad fel nad oedd yn hawdd ei adnabod.

A dyma Gwydion, ei frawd, syllu yn graff arno a gofyn: 'ah, fachgen, beth sydd yn bod?'
'Paham,' gofynnodd ynteu [Gilfaethwy], 'beth a weli ynof?'
'Gwelaf,' ymatebodd Gwydion, 'dy fod wedi colli dy bryd a'th liw; beth sydd arnat?'
'Arglwydd frawd,' medd Gwydion, 'yr hyn sydd arnaf ni dalith i mi ddweud wrth neb.'
'Beth yw hynny, annwyl enaid?' gofynnodd.
'Ti a wyddost,' medd yntau, 'beth yw cynneddf Math mab Mathonwy; os sibryda dynion a'u gilydd, dim ots mor isel eu tôn os ei gyrchwyd gan y gwynt fe glywai Math ef.
'Ie,' meddai Gwydion, 'nawr taw. Canys gwn dy feddwl; rwyt mewn cariad ô Goewin.' Pan sylweddolodd fod ei frawd yn gwybod ei feddwl rhoes yr ochenaid drymaf a glywodd y byd.
'Taw, annwyl enaid, o'th ochneidio,' medd ef [Gwydion], 'canys nid wrth hyn y gwnei orchfygu. Minau a baraf, canys nid yw yn bosib heb hyn, gynulliad gwyr Gwynedd a Phowys a Deheubarth i ymgeisio y forwyn; nawr bydd lawen canys mi a baraf i ti ei chael.'

Ac ar hyn yr aethant at Fath mab Mathonwy. 'Arglwydd,' meddai Gwydion, 'fe glywais fod anifeiliaid wedi dyfod i'r de o fath na welwyd yn yr ynys hon erioed o'r blaen.'
'Beth gelwid hwy?' gofynnodd ef [Math].
'Hobau, arglwydd,' [atebodd Gwydion].
'Pa fath o anifeiliaid yw rhain?'
'Anifeiliaid bychan a chyda gig gwell ei flas na chig eidion. [ymatebodd Gwydion] Bychan ydynt ac maent yn newid eu henwau. Moch eu gelwir nawr.'
'Pwy sydd berchen arnynt?'
'Pryderi mab Pwyll, ac anfonwyd hwy iddo o Annwfn gan Arawn brenin Annwfn.' (ac hyd heddiw maent dal i gadw eu henwau; hanner hwch, hanner hob).

'Ie,' medd ef [Math], 'a sut y gallwn eu cael ganddo?'
'Mi a af ymhlith deuddeg, mewn ffurf beirdd, arglwydd, i erfyn y moch.'
'Ef a all eich gwrthod...' medd ef.
'Nid drwg yw fy nghynllun, arglwydd,' medd ef, 'ni ddychwelaf heb y moch.'
'Yn llawen,' medd yntau [Math], 'cerdda ymaith.'

Ef a aeth, ynghyd â, Gilfaethwy a deg gŵr arall gyda hwy, i Geredigion, i'r lle a elwir Rhuddlan Teifi heddiw; ble oedd safle llys Pryderi. Aethant i fewn ar ffurf beirdd, a llawen fu eu croeso. A'r noson honno gosodwyd Gwydion wrth ochr Pryderi.
'Ie,' meddai Pryderi, 'fe fuasai'n dda gennyf gael stori gan rai o'r gŵr ifanc acw.'
'Mae gennym arferiad, Arglwydd,' meddai Gwydion, 'y noson cyntaf y down i lys gŵr mawr y pencerdd a roir stori. Fe a ddywedaf chwedl yn llawen.'

Gwydion oedd storïwr gorau'r byd. A'r noson honno fe ddiddanodd y llys gyda chwedlau a storïau digrif ac roedd hyn yn hoff i bawb yn y llys. Ac ef a Phryderi siaradwyd ynghyd.

Pan ddaeth hyn i ben, 'Arglwydd,' meddai ef, 'a allai neb gyflwyno fy neges i thi yn well na mi fy hunan?'
'Neb gwell,' medd yntau. 'tafod llawn dda sydd gennyt.'
'Dyma fy neges, arglwydd, i erfyn am yr anifeiliaid a ddoeth o Annwfn.'
'Yn wir,' medd ef [Pryderi], 'dyma fuasai'r peth hawsaf yn y byd i'w wneud oni bai'r amod a gytunais i a'm gwlad iddo wrth eu derbyn; hynny yw, na alaf eu gollwng unai fel anrheg na gwerthant hyd y byddent wedi dyblu yn eu nifer yn yr ardal hon.'
'Arglwydd,' atebodd ynteu [Gwydion], 'fe allaf dy ryddhau dithau o'r addewid yma. Ond fel y gallaf wneud hyn, peidiwch a rhoi'r moch i mi heno, ond peidiwch a'u gwrthod i mi ychwaith. Ac yfory mi a dangosaf rhywbeth i gyfnewid þ hwy.'

Y noson honno aeth ef a'i gydymdeithion i'w llety i ymgynghori.
'Ddynion,' medd ef [Gwydion], 'ni chawn y moch drwy ofyn amdanynt.'
'Yn wir,' meddai hwy, 'am ba drosglwydd y cawn hwy?'
'Fe baraf eu cael,' meddai Gwydion. Ac yna yr aeth ef i'w gelfyddydau a ddechreuodd ddangos eu hud. A hudodd deuddeg march a deuddeg milgi du bron-wynnaidd a deuddeg coler gyda thennyn yng nghlwm a dyfalai pawb a edrychai arnynt eu bod yn aur. Ar y meirch 'roedd deuddeg cyfrwy ac ymhobman y dylai haearn fod ar rhain ymddengys y gwnaethpwyd y cyfan o aur, ac roedd y ffrwynau yr un ffunud a'r rhain.

A daeth y meirch a'r cŵn at Bryderi.
'Arglwydd,' meddai ef [Gwydion]
'Duw a fo gyda thi,' medd ef [Pryderi], 'a chroeso i chwi.'
'Arglwydd,' meddai ef [Gwydion], 'Dyma ryddid i ti o'r amodau a ddywedasit neithiwr am y moch, canys ni fydd wedi eu rhoi na'u gwerthu. Tithau a ellir eu cyfnewid am rhywbeth gwell. Fe a roddaf y deuddeg march yma, fel ag y maent, gan gynnwys eu cyfrwyau a'u ffrwynau a'r ddeuddeg milgi gyda'u coleri a tenynnau a'r deuddeg tarian euraidd a weli draw acw.' (Y rhai a gonsuriwyd o fadarch.)
'Yn wir,' medd ef, 'ni a gymerwn gynghor.'
Penderfynasant, wrth gynghori, roi'r moch i Wydion a cymeryd y meirch, y cŵn a'r tarianau a gynigiodd ef.

Cymerasant hwy ganddo a dechreuasant gerdded gyda'r moch.
'A, gymdeithason,' meddai Gwydion, 'rhaid i ni gerdded yn gyflym. Ni wnaiff yr hud barau o un dydd hyd y nesaf.'
Y nos honno fe gerddasant hyd pen uchaf Ceredigion i'r lle, oherwydd hyn, a elwir Mochdref hyd heddiw. Drannoeth cymerasant eu hynt a dros yr Elenid yr aethant. A'r noson honno yr oeddynt rhwng Ceri ac Arwystyl, yn a dref sydd hefyd, o achos hyn, yn cael ei alw'n Fochdref. Ac oddi yno cerddasant ymlaen a'r noson honno yr aethant cyn belled a Chymmwd ym Mhowys a elwir oherwydd hyn yn Mochnant hefyd ac yno y buasent y noson honno. Oddi yno cerddasant nes cyrraedd cantref Rhos a'r noson honno yr arhosant o fewn y dref a elwir, unwaith eto yn Fochdref.

'Gwŷr,' dywedodd Gwydion, 'fe gyrhaeddwn gadernid Gwynedd þr anifeiliaid yma. Mae llu ar ein holau.' Sef y cyraeddasant tref uchaf Arllechwedd ac yno gwnaethpwyd twlc i'r moch; ac oherwydd hyn gelwid y dref yn Creuwryon. Wedi gorffen y twlc aethant at Math mab Mathonwy yng Nghaer Dathyl.

Pan ddaethant yno yr oedd cynnwrf yn y wlad. 'Pa newydd sydd yma?' gofynnodd Gwydion.
'Cynulliad,' meddent hwy, 'mae Pryderi ar eich ôl gyda gwŷ,r un cantref ar ugain. Rhyfedd pa mor araf y cerddasoch yma.'
'Ble mae yr anifeiliaid yr ymchwiliasant amdanynt?' gofynnodd Math.
'Maent wedi creu twlc iddynt yn y cantref isod,' meddai Gwydion.
Gyda hyn clywsant ganiad utgyrn a chynnwrf llu yn y wlad. Ar hyn gwisgasant eu arfau a cherdded hyd Pennardd yn Arfon.

A'r noson honno y dychwelodd Gwydion fab Dôn a Gilfaethwy ei frawd i Gaer Dathyl ble dodwyd Gilfaethwy a Goewin ferch Pebin yng ngwely Math i gysgu a'u gilydd tra cymhellwyd y morwynion i adael drwy rym. Y noson honno cysgodd Gilfaethwy ynghyd â Goewin, gan ddwyn ei hanfod.

Pan welsant y dydd drannoeth dychwelsant [Gwydion a Gilfaethwy] i ble yr oedd Math nab Mathonwy a'i lu. Pan gyraeddasant 'roedd y gwŷr yn mynd i ymgynghori ble yr aethant i aros Pryderi a gwŷr y De. Penderfynasant aros yng nghadernid Gwynedd, yn Arfon. Rhwng y ddwy faenor, Maenor Bennard a Maenor Coed Alun gwnaethant eu safle.

Pryderi a ymosododd hwy yno, ac yno y bu y frwydr, a bu lladdfa fawr ar y ddwy ochr, a bu rhaid i wŷr y de encilio. Ac enciliasant i'r lle a elwir Nant Call; ac i'r lle yma fe'u erlidwyd. Ac yno y bu lladdfa di-fesur ei faint. Yna y ffoasant i'r lle a elwir Dol Penmaen. Ac yno y cydgynnullwyd a cheisio ymdangnefeddu, ac i sicrhau heddwch rhoes Bryderi wystlon. A'r gwystlon hyn oedd Gwrgi Gwastra ynghyd â pedwar ar ugain o feibion pendefigion.

Ac wedi hyn cerddasant o'r fan honno yn heddychlon nes cyrraedd Traeth Mawr; ond fel y daethant at Felenrhyd ni allai'r saethwyr atal eu hunan rhag saethu atynt. Gyrrodd Pryderi genhadau i [Math i'w] ymbil i atal ei ddynion rhag saethu ac i adael y canlyniad rhyngddo ef a Gwydion mab Dôn; canys ef a achosai hyn i gyd.
Daeth y cennad at Math mab Mathonwy 'Yn wir,' dywedodd Math, 'rhyngof i a duw, os gwnaiff hyn blesio Gwydion mab Dôn, yna fe'i ganiatâf yn llawen. Ni gymhellaf un o'n dynion i ymladd oni byddwn ninnau wedi gwneud yr oll a allwn [i atal y frwydr].'
'Yn ddiamau,' meddai'r cenhadau, 'nid yw ddim ond yn deg, meddai Pryderi, i'r gŵr a achosodd hyn drwy gam osod ei gorff yn erbyn ei eiddo a gadael y ddau lu yn segur.'
'Addawaf i Dduw fy nhyst,' [dywedodd Gwydion], 'ni erfynaf i wŷr Gwynedd ymladd drosof, a minau fy hunan yn cael ymladd â Phryderi. Mi a osodaf fy nghorff yn erbyn ei eiddo yn llawen.'

Anfonwyd y neges hyn i Bryderi. 'Yn wir,' meddai Pryderi, 'ni erfynaf i neb ddymuno iawndal drosof ac eithrio fy hunan.'
Ymwisgodd y dynion hynny amdanynt a daeth y ddau ymlaen ac ymladd a wnaethant. O nerth grym a ffyrnigrwydd, hud a lledrith, Gwydion a fu'n fuddugol a Phryderi a laddwyd ac fe'i gladdwyd ym Maen Twrog uwchlaw y Felenrhyd ac yno mae ei fedd hyd heddiw.

Gwŷr y de a gerddasant ymaith mewn trueni i ddychwel i'w gwlad; ac nid rhyfedd hyn gan eu bod wedi colli eu harglwydd, a llawer o'u cydymaethau, ynghyd â'r rhan fwyaf o'u meirch a'u arfau.

Gwŷr Gwynedd a ddychwelasant yn llawen a gorfoleddus.
'Arglwydd,' meddai Gwydion, 'onid yw'n iawn i ni ollwng y gwystlon a ddyledodd gwŷr y de i ni er mwyn heddwch? Ac ni ddylswn eu carcharu.'
'Ryddhewch hwy,' meddai Math. A'r gwas hwnnw [(Gwrgi)] a'r gwystlon oedd gydag ef a ollyngwyd i ddilyn gwŷr y de.

Math a ddychwelodd i Gaer Dathyl, tra Gilfaethwy mab Dôn ac aelodau llys Math a oedd gydag ef a aethant i gylchu Gwynedd, fel oedd au arfer, heb fynd ar gyfyl y llys. Ynteu Fath a aeth i'w ystafell ac a beri paratoi lle iddo led-orwedd fel y gallai orffwys ei draed ym mhlyg y forwyn.
'Arglwydd,' meddai Goewin, 'ceisia forwyn arall i ddal dy draed, canys 'rwyf bellach yn wraig.'
'Beth yw ystyr hyn?' [gofynnodd Math]
'Ymosodiad, Arglwydd, a ddaeth am fy mhen, a hynny yn gyhoeddus ac ni fûm yn ddistaw tra digwyddodd. Nid oedd neb yn y llys na wyddai. Daeth dy neiau, meibion dy chwaer, arglwydd, Gwydion fab Dôn a Gilfaethwy mab Dôn. Trais y gwnaethant arnaf, a chywilydd arnat tithau, a chysgu a wnaeth gyda mi, a hynny yn dy ystafell ac yn dy wely.'
'Yn wir,' medd yntau [Math], 'yr hyn a allaf wneud [mi a'i gwnaf]. Yn gyntaf fe baraf iawndal i thi, ac yna caf innau iawndal ohonynt. A thithau,' meddai ef, 'fe'th gymeraf yn wraig i mi ac fe roddaf fy nghyfoeth i'th ddwylo di.'

A gyda hyn ni naethant hwy [Gwydion a Gilfaethwy] ar gyfyl y llys, a dal i gyrchu y wlad a wnaethant hyd doeth gwahardd ar roi bwyd a llith iddynt. I ddechrau ni daethant ar ei gyfyl [Math] ond yn y diwedd daethant ato.
'Arglwydd,' meddant hwy, 'dydd da i thi.'
'Ie,' medd ynteu, 'ai i wneuthur iawndal a mi y daethoch chwi?'
'Arglwydd, disgwyl dy ewyllys yr ydym.'
'Fy ewyllys fyddai i beidio a cholli cyn gymaint o wŷr ac o arfau ac y gwnaethom. Ni ellwch dalu i mi am fy nghywilydd, heb gysidro marwolaeth Pryderi. Ond gan eich bod wedi dod yma i fod o dan fy ewyllys mi a gychwynnaf eich cosb.'

Yna y cymerodd ei hudlath a thrawodd Gilfaethwy a'i droi yn ewig, ac yn gyflym daliodd y llall [Gwydion] rhag iddo ddianc. Trawodd ef hefyd a'i hudlath a'i droi yn garw. 'Gan eich bod yn rhwymedig, [esboniodd Math], fe a wnaf i chwi gerdded ynghyd a chan eich bod yn gymheiriaid fe wnaf i chwi ddwyn natur yr anifeiliaid yr ydych yn eu ffurf. Ac yn yr amser y bo'r anifeiliaid hyn yn epilio y bydd disgynnydd i chwi. A blwyddyn i heddiw dewch yma ataf i.'

Ymhen blwyddyn i'r dydd clywyd stŵr mawr oddi tan bared yr ystafell a chŵn y llys a oedd yn cyfarth oherwydd y sŵn.
'Edrych,' dymunodd ef [Math o was y llys] 'beth sydd y tu allan.'
'Arglwydd,' meddai un, 'fe edrychais. Mae yna garw ac ewig ac elain gyda hwy.'
Ac ar hyn cyfododd a myned allan. A phan gyrhaeddodd gwelodd tri anifail: sef carw, ewig ac elain cryf. Dyrchafodd ei hudlath a dywedodd: 'Yr hwn ohonoch a fu yn ewig llynedd fydd yn faedd coed eleni. Ar un ohonoch a fu yn garw llynedd, bid hwch wyllt eleni.' A gyda hun trawodd hwy a'i hudlath.

'Y mab, sut bynnag, a gymeraf i'w feithrin a'i fedyddio.' A'r enw, Hydwn, a ddodwyd arno. [Yna Math a drodd at y moch gwyllt ac a ddywedodd:] 'Ewch chwithau a fyddwch yr un yn faedd coed a'r llall yn hwch gwyllt coed. A natur moch coed fydd eich natur chwithau. A blwyddyn i heddiw byddwch yma o dan y pared a'ch etifedd gyda chwi.'

Ymhen blwyddyn clywyd cyfarth cŵn o dan bared yr ystafell ac ymgasglodd y llys i weld natur y stŵr. Gyda hyn cyfododd ef [Math] ac aeth allan. A phan gyrhaeddodd gwelodd dri anifail: baedd coed, hwch wyllt coed a mochyn gwyllt bychan da gyda hwy; a oedd o dwf da am ei oed.

'Ia,' medd ef [Math], 'hwn a gymeraf ac a baraf i'w fedyddio.' Gyda hyn fe'i drawodd a'i hudlath ac fe'i drowyd yn fachgen tal melynwallt. A'r enw a roid iddo oedd Hychddwn. 'A chwitheu,' [troes Math at y moch gwyllt,] 'yr un ohonoch a fu yn faedd coed llynedd, bid yn ast blaidd eleni, a'r un a fu'n hwch gwyllt llynedd, bid yn flaidd eleni.' Gyda hyn trawodd hwy a'i hudlath a cyfnewidwyd hwy yn flaidd ac yn ast blaidd. 'A natur yr anifeiliaid yr ydych yn eu ffurf fydd eich natur chwitheu. A byddwch yma blwyddyn o heddiw o dan y pared yma.'

Ar yr un dydd ymhen blwyddyn clywyd cyffro a chyfarth dan bared yr ystafell. Ynteu [Math] a gyfododd i fynd allan a phan gyrhaeddodd gwelodd blaidd ac ast-blaidd a chenau blaidd cryf gyda hwy. 'Hwn a gymeraf i,' meddai ef [Math], 'ac a baraf iddo gael ei fedyddio ac mae ei enw yn barod; a hwn yw Bleiddwn.' [Yna gan droi i Gwydion a Gilfeathwy dywedodd:] 'Tri mab a anwyd i chwi a'r tri hynny yw:-

Tri mab Gilfaethwy a enwir
Tri pencampwr cywir
Bleiddwn, Hydwn a Hychddwn Hir.


Gyda hyn trawodd y ddau ohonynt gyda'i hudlath a'u trawsffurfiwyd i'w cnawd eu hunain.
'A, wŷr,' meddai ef [Math], 'am y cam a wnaethoch i mi digon fu eich poen, a chywilydd mawr a gawsoch gan eich bod wedi cael plant ohonoch eich gilydd.' [Yna trodd at y llys a dywedodd:] 'perwch eneinio y gwŵr yma, a golchi eu pennau a'u dilladu.' A hyn a wnaethpwyd.

Ac wedi iddynt ymwisgo cyrchwyd hwy o'i flaen [Math]. 'Gw±,'r, 'tangnefedd a gawsoch, a chyfeillgarwch a gewch. A roddwch gyngor i mi am ba forwyn y ceisiaf [i ddal fy nhraed].'
'Arglwydd,' meddai Gwydion fab Dôn, 'mae'n hawdd dy gynghori. [Cyrcha] Arianrhod ferch Dôn dy nith, merch dy chwaer.

Cyrchwyd hi iddo, a'r forwydd a ddoeth i fewn. 'Ferch,' gofynnodd ef [Math], 'a wyt yn forwyn?'
'Ni wn yn wahanol nad wyf,' [ymatebodd Arianrhod].
Cymerodd Math ei hudlath a'i phlygu yn y canol [cyn ei rhoi ar y llawr]. 'Cama dros hon,' gorchmynnodd, 'ac os wyt yn forwyn mi a wyddaf.' Yna cymerodd hithau gam dros yr hudlath ac fel y cymerodd y cam cyntaf hwnnw ymdarddwyd mab twchus, mawr, melynwallt. Rhoddodd y mab gri uchel ac wrth glywed hyn cyrchodd hi [Arianrhod] y drws ac ar hynny daeth peth bychan ohoni. Ond cyn i neb gael ail olwg ohono gafaelodd Gwydion ynddo a'i orchuddio mewn llen o felfed a'i guddio, Yna rhoddodd ef mewn llaw-gist wrth droed ei wely.

'Yn wir,' meddai [Math mab] Mathonwy wrth y bachgen melynwallt, 'fe baraf i hwn gael ei fedyddio, a Dylan fydd ei enw.' Bedyddiwyd y bachgen a chyn gynted ag y bedyddiwyd ef cyrchodd y môr. Ac yn y lle yr aeth i'r môr datblygodd natur y môr a nofiodd mor gystal a'r pysgod gorau yn y dŵr ac o achos hyn fe'i gelwid Dylan eil Dôn. Ni dorrodd ton oddi tano erioed. A'r ergyd a laddodd ef fe'i fwriwyd gan Gofannon ei ewythr. A hon oedd y drydedd ergyd anffawd [Ynys Prydain].

Un dydd, fel yr oedd Gwydion yn ei wely ac yn deffroi, fe glywodd gri o'r gist wrth ei draed. Nid oedd y sŵn yn uchel, ond eto 'roedd yn ddigon uchel iddo ei glywed. Cyfododd yn gyflym i agor y gist. Ac fel ei agorodd gwelodd fachgen bychan yn rhwyfo ei freichiau o blygau'r llen a'i gwasgaru. Ac ef a gymerodd y bachgen rhwng ei ddwylaw ac a aeth i'r dref gydag ef, ble y gwyddai fod gwraig llaethog. A bargeiniodd â hi i feithrin y bachgen. Hi a fagodd y mab y flwyddyn honno. A phan yn flwydd oed ymddengys o'i faint ei fod yn ddyflwydd. Erbyn ei ail flwydd 'roedd yn fachgen mawr a gallai gyrchu'r llys ar ei ben ei hunan. A Gwydion ei hunan, pan ddoeth i'r llys, a graffodd arno. A'r mab a gyfarwyddyd gydag ef, ac a'i garodd yn fwy nac unrhyw ddyn. Yna magwyd y bachgen yn y llys hyd oedd yn bedair, ac erbyn hyn roedd cyfaint a bachgen wyth blwydd oed. Yr adeg yma aeth [Gwydion] i Gaer Arianrhod, a'r mab gydag ef. Wedi dyfod i'r llys cododd Arianrhod i'w gyfarch a'i groesawu.
'Duw a'th ffynni,' meddai ef [Gwydion].
'Pa fachgen sydd yn dy ddilyn di?' gofynnodd hithau.
'Y bachgen yma, dy fab di yw,' medd ef.
'O, ŵr,' [atebodd hithau,] beth ddaeth drosot i fy nghywilyddio fel hyn, i erlid fy nghywilydd a'i gadw gyhyd a hyn?'
'Oni byddi gennyt gywilydd mwy na fy meithrin mab cystal a hwn, yna bychan o beth fydd dy gywilydd.'
'Beth yw enw dy fab?' gofynnodd hithau.
'Yn ddiamau,' medd ef, 'nid oes ganddo yr un enw eto.'
'Ie,' meddai hi, 'fe dyngaf dynged arno, ni chaiff enw os na'i chaiff gennyf i.'
'Tyngaf i dduw fy nhyst,' medd ef, 'gwraig faleisus wyt ti, ac fe gaiff y bachgen enw pa bynnag anfodlon y byddit ti a hyn. A thithau,' ychwanegodd 'yr hun yr wyt, ac eto yn alarus nad wyt yn forwyn; nith elwir eto byth yn forwyn.'

Ar hyn cerddodd ymaith yn llidiog nes cyrraedd Caer Dathyl ble y bu y noson honno. Cyfododd drannoeth a chan gymeryd ei fab gydag ef ac ymdeithiasant ar lan y weilgi rhwng y fan honno ac Aber Menai. A phan welodd ddelysg a myrwials hudasant hwy i ffurf cwch. Ac o'r gwymon a'r delysg hudodd ledr Cordofaidd, a llawer ohono, a brithodd hwn i ffurf fel na welsai neb ledr cyn deced ac ef. Ac ar hynny creodd hwyl i'r cwch cyn dyfod, ef a'r bachgen, i ddrws porth Caer Arianrhod. Ac yma y dechreuasant lunio esgidiau a'u gwnïo, nes darganfuwyd hwy o'r caer.

Pan sylweddolodd ynteu [Gwydion] eu bod wedi cael eu gweld o'r caer dwynodd eu ffurf eu hunain gan osod agwedd arall arnynt fel na allai neb eu adnabod.
'Pa ddynion sydd yn y cwch?' gofynnodd hi [Arianrhod o'i theulu.]
'Cryddion,' meddai hwy.
'Ewch i edrych pa fath o ledr sydd ganddynt, a pa fath o waith maent yn ei wneud.' [gorchmynnodd hi]
Yna yr aethant, a phan gyraeddasant yr oedd ef [Gwydion] yn lliwio lledr Cordofaidd yn euraidd. Dychwelodd y cenhadau gan fynegi yr hyn a welsant iddi.
'Ie,' dywedodd hithau, 'cymerwch fesur fy nhraed ac erfyniwch i'r cryd wneud esgidiau i mi.'
Yntau a luniodd yr esgidiau, ond nid wrth y mesur cywir, ond un maint yn fwy. Daethpwyd yr esgidiau iddi, oni wele, roeddynt yn rhy fawr.
'Maent yn rhy fawr,' dywedodd hi, 'ef a gaiff werth yr rhain, ac hefyd gwerth rhai sydd yn llai na hwy.'
Ef a wneuthur pâr arall a oedd yn llawer llai na'i thraed a gyrrwyd rhain iddi.
'Dywedwch iddo nad aiff un o'r esgidiau yma am fy nhraed,' meddai hi. A'r hyn a ddywedwyd iddo.
'Ie,' medd ef, 'ni luniaf esgidiau iddi hyd y gwelaf ei throed.' A'r neges hyn a ddaethpwyd iddi.
'Yn wir,' ymatebodd hi, 'mi a af iddo.'

Ac yna y doeth hi at y cwch. A phan gyrhaeddodd yr oedd ef [Gwydion] yn llunio a'r mab yn gwnïo
'Arglwyddes,' medd ef, 'dydd da i thi.'
'Duw a'th ffyni,' meddai hithau. 'Rhyfedd yw gennyf na allwch gymedroli wrth wneuthur esgidiau o fesur.'
'Ni fedrais,' medd ef, 'ond mi a fedraf nawr.'
Ac ar hyn dyma ddriw yn sefyll ar fwrdd y cwch. A hyn a wnaeth y bachgen, taflu ei nodwydd a thrawo'r aderyn a'i dreiddio rhwng gewyn ac asgwrn ei goes. Chwerthin wnaeth hi am hyn gan ddywedyd: 'yn wir, gyda llaw fedrus y medrodd yr un golau ei drawo.'
'Ie,' medd yntau, 'melltith duw arnat, canys cafodd enw; ac enw llawndda yw. Lleu Llaw Gyffes yw bellach.

Ac yna diflannodd eu gwaith yn ddelysg ac yn wymon ac ni chanlynasant ag ef ddim mwy na hynny. Ac o'r achos hyn y gelwir ef [Gwydion] yn drydydd eur grydd [Ynys Prydain].

'Yn ddiamau,' medd hithau, 'ni fydd ddim gwell arnat o fod yn ddrwg wrthyf i.'
'Ni fûm ddrwg wrthyt eto,' meddai ef. Ac yna y rhyddhaodd y mab i'w bryd ei hunan, ac y cymerodd yntau ei ffurf gwreiddiol.
'Yn wir,' dywed hithau, 'mi a dyngaf dynged i'r bachgen hwn; ni chaiff arfau byth oni bai i mi eu gwisgo amdano.'
'Addawaf i dduw,' dywedodd ef, 'deillia hyn o'th ddireidi di, ac ef a gaiff arfau.'
Yna y daethant i Ddinas Dinllef. Ac yno y meithrinodd Lleu Llaw Gyffes felly gellir marchogaeth pob march ac yr oedd yn berffaith o bryd a thwf a maint.

Ac yna cydnabod wnaeth Gwydion o edrych arno [Lleu] fod bywyd yn mynd y druenus iddo o eisiau meirch ac arfau, felly galwodd ef iddo. 'A, was,' medd yntau, 'mi a awn, ti a mi, ar neges yfory. Nawr, bydd lawenach nac yr wyt.'
'Hynny a wnaf innau,' meddai'r bachgen.

A thrannoeth, yn ieuenctid y dydd, codi a wnaethant a chyrchu'r arfordir hyd Bryn Aryen. Ac ar gopa Cefn Clydno darpar â cheffylau a wnaethant cyn anelu am Gaer Arianrhod. Ac yna newid eu golwg a wnaethant cyn dyfod i'r porth yn ffurf dau was ifanc, eithr fod pryd Gwydion yn harddach nac un y bachgen.

'Porthor,' medd ef [Gwydion], 'dos i fewn a dywed fod yma feirdd o Forgannwg.'
Aeth y porthor. 'Croeso dduw iddynt,' medd hi [Arianrhod], 'gollwng hwy i fewn.' Llawenydd mawr a fu yn eu derbyn. Cyfeirwyd hwy i'r neuadd ac i fwyta yno yr aethant. Wedi'r bwyd orffen ymddiddan wnaeth Gwydion a hi am chwedlau a storïau. A gwydion oedd yn storïwr da.

Pan oedd yn amser ymadael o'r cyfeddach paratowyd ystafell iddynt ac i gysgu yr aethant. Cododd Gwydion yn bell cyn y wawr. A galwodd ei hud a'u allu ynghyd. Erbyn pan oedd y dydd yn goleuo yr oedd cynnwrf ac utgyrn a llefain yn swnio gyda'u gilydd ar draws y wlad. Pan ddaeth y dydd clywsant drawo ar ddrws yr ystafell ac yno 'roedd Arianrhod yn erchi ei agor. Cyfododd y gwas ifanc ac agorodd y drws. Hithau a ddaeth i fewn, gyda ei morwyn.
'Gwŷr da,' meddai hi, 'rydym mewn cyflwr ofnadwy.'
'Yn wir,' medd yntau, 'fe glywn utgyrn a llefain, a beth debygi yw argoel hyn?'
'Yn ddiamau,' meddai hi, 'ni allwn weld lliw y môr oherwydd y llongau sydd yn tyrru â'u gilydd arni. Ac maent yn cyrchu'r tir cyn gynted ac y gallant. Beth a allwn ei wneud?'
'Arglwyddes,' meddai Gwydion, 'nid oes unrhyw gynghor, sef cau y caer amdanom a'i amddiffyn cyn gystal ac y gallwn.'
'Yn wir,' meddai hi. 'duw a'ch ffynnwch. Oni gynhaliwch ni, yma y cewch ddigon o arfau.'

Gyda hyn aeth hi i nol yr arfau, a dychwelodd gyda dwy forwyn a digon o arfau i ddau ŵr ganddynt.
'Arglwyddes,' medd ef [Gwydion], 'gwisga am y gwr ifanc yma. A minau, gyda cymorth morwyn a wisgaf amdanaf fy hunan. Mi a glywaf gynnwrf gwŷr yn dyfod.'
'Hynny wnaf yn llawen,' ac yn galonnog fe gymorthodd i arfu ei hun yn llawn.'

'A wyt wedi gorffen arfu'r gwas?' gofynnodd ef [Gwydion].
'Gorffennais,' medd hithau.
'Rwyf innau wedi gorffen,' meddai ef. 'Nawr cawn dynnu'r arfau yma. Nid ydym eu hangen.'
'O,' medd hithau, 'paham? Mae yna lynges yn cylchy'r tŷ.'
'A wraig, nid oes yna unrhyw lynges.'
'O!,' llefodd [hi], 'paham y'i chynnullwyd?'
'Ymgynnullwyd,' medd yntau, 'i dorri y dynged a roddaist ar dy fab, ac i gael arfau iddo. Ac nawr fe gafodd arfau, heb ddim diolch i ti.'
'Addawaf i dduw,' medd hithau, 'gŵr drwg wyt. A gallai llawer i fab fod wedi colli eu eneidiau oherwydd y cynnwrf a beraist yn y cantref hwn heddiw. Fe a dyngaf dynged iddo' ychwanegodd, 'na chaiff fyth wraig o'r genedl sydd ar y ddaear hon yr awr hon.'
'Yn wir,' medd ef, 'direidus wraig a fuost erioed, ac ni ddylai neb dy gynnal. A gwraig y caiff, fel cynt.'

Hwythau a ddaeth at Math mab Mathonwy, a chwyno'n ddicllon am rwystrau Arianrhod a wnaethant, a mynegi fel y caethpwyd arfau iddo.
'Ie,' meddai Math, 'ceisiwn ninnau, ti a fi, drwy ein hud a lledrith, hudo gwraig iddo o flodau. Mae nawr o faint gŵr, a tecach gwas ni welodd dyn erioed.'

Ac yna cymerasant hwy flodau y dderwen, y banadl a'r erwein ac o'r rhain swynasant y forwyn tecaf a mwyaf lluniaidd a welodd dyn erioed. A bedyddiwyd hi o'r ffurf ei genid a dodwyd yr enw Blodeuwedd arni.

Wedi iddynt gysgu ynghyd ac wedi iddynt oll wledda sylwodd Gwydion: 'Nid hawdd yw i ŵr heb gyfoeth gynnal ei hunan.'
'Yn wir,' meddai Math, 'mi a roddaf iddo y cantref a fuasai orau i was ieuanc ei gael.'
'Arglwydd,' gofynnodd ef [Gwydion], 'pa gantref yw hwnnw?'
'Cantref Dinodig,' ymatebodd. (Y lle a elwir nawr yn Eifionydd ac Ardudwy.)
O fewn y cantref hwnnw rhodiodd Lleu yn y lle a elwir Mur-y-Castell yn ucheldir Ardudwy. A phawb a fu'n fodlon iawn ar ei arglwyddiaeth.

Ac yna crwydrodd ef [Lleu] ymaith a chyrchodd ardal Caer Dathyl i ymweld a Math mab Mathonwy. Y diwrnod yr ymadawodd ef am Gaer Dathyl, troi o fewn y llys a wnaeth hi [Blodeuwedd]. A clywodd lef corn, ac ar ôl llef y corn dyma hydd blinedig yn mynd heibio, a chŵn a helwyr ar ei ôl. Ac ar ôl y cŵn a'r helwyr daeth llu o wŷr ar droed.
'Gyrrwch was,' meddai hi, 'i wybod pwy yw'r dynion hyn.'
Aeth y gwas i ofyn pwy oeddynt.
'Dyma Goronwy Bebyr, y gŵr sydd yn arglwydd ar Benllyn,' meddant hwy. A dyma oedd yr ymadroddodd y gwas i hithau.
Yntau [Goronwy Bebyr] a ddilynodd yr hydd. Ac ar Afon Gynfael gorchfygodd yr hydd a'i ladd. Ac wrth flingo'r hydd a phorthi'r cŵn dyma'r nos yn dechrau cau arno. A phan 'roedd y dydd yn dirwyn i ben, a'r nos yn nesáu fe ddaeth heibio porth y llys [Lleu].

'Yn ddiamau,' meddai hi, 'ni a gawn ein goganu gan yr unben os, ar awr mor hwyr, gadawn iddo ymadael i ardal arall heb ei wahodd i fewn.'
'Yn wir, arglwyddes,' dywedasant hwy, 'addas fydda ei wahodd.'
Yna y gyrrwyd cenhadon i'w gyfarfod a'i wahodd i fewn. Derbyniodd y gwahoddiad yn llawen a daeth i'r llys, a dyma hi [Blodeuwedd] a ddaeth yno i'w gyfarch a'i groesawu i fewn.
'Arglwyddes, duw a'th ffyni am dy garedigrwydd,' [meddai ef] 'Ymddiachernasant cyn myned i eistedd. Edrychodd Blodeuwedd arno ac o'r awr y gwelodd nid oedd amheuaeth nod oedd yn llawn o gariad ato. Ac yntau a syllodd arni hi, a'r un meddwl a ddaeth iddo ef ac y ddaeth iddi hi. Ni allai guddio'r ffaith ei fod yn ei charu, a mynegodd hyn iddi. Hithau a gymerodd ddirfawr lawenydd yn hyn. Ac am y serch a;r cariad y teimlodd un am y llall y bu eu ymddiddan y noson honno. Yr hynny a grewyd o fewn un noswaith. A'r noson honno cysgu ynghyd a wnaethant.

A thrannoeth bwriadu ymadael a wnaeth ef.
'Yn ddiamau,' medd hi, 'ni ei oddi wrthyf heno.'
A'r noson honno y buasent ynghyd hefyd ac ymgynghorasant ar ba ffurf y gallasant fod â'u gilydd yn wastad.
'Nid oes gennyf gynghor i ti,' medd ef, 'sef un; darganfod ganddo ef [Lleu] i gael gwybod drwy pa ffurf y gellid ei ladd, a hynny yn ffurf ymgeleddu amdano.'

Drannoeth, bwriadu ymadael a wnaeth. 'Yn wir,' meddai hi, 'ni gynghoraf i ti fyned oddi wrthyf heddiw.'
'Yn ddiamau, canys dyma dy gynghor, ni af innau,' medd ef. 'er hynny mae perygl y daw yr unben a biau'r llys adref.'
'Ie,' medd hi, 'yfory fe'th adawaf di i ymadael.'

Drannoeth, ymofynnodd i ymadael a'r tro yma ni rwystrodd hi ef.
'Cofia yr hyd a ddywedais wrthyt,' medd ef, 'ac ymddiddan yn wyliadwrus gydag ef; a hynny yn ffurf ysmala cariad ag ef. Ac yna darganfod ganddo pa ffordd y gall ddod i'w angau.'

Yntau [Lleu] a ddaeth adref y noson honno a treuliasant y dydd drwy ymddiddan a cherdd ac anerchiad. A'r noson honno aethant i gysgu ynghyd. Ac ef a ddywedodd stori, ac yna ail un wrthi. Ond ni gafodd unrhyw ateb.
'Beth sydd wedi digwydd i thi,' gofynnodd ef, 'a wyt yn wael?'
'Meddwl yr wyf,' atebodd hi, 'o'r hyn na feddyliaist i'm mhryderu ag ef. Sef hyn, poeni am dy angau fel na wnei ymadael y byd yma o'm blaen i.'
'Duw a'th fynni am dy ofal,' meddai ef, 'Oni dduw a'm cymeryd, nid yw'n hawdd fy lladd.'
'A wnei di, er mwyn duw, ac er fy mwyn innau, fynegi i mi am ba ffurf y gellid dy ladd? Canys mae fy nghof i yn well yn gocheliad na'th un di.'
'Dywedaf yn llawen,' meddai ef, 'Nid yw'n hawdd fy lladd gyda ergyd. Rhaid gwneuthur y gwaywffon a'm trawaf dros gyfnod blwyddyn ac ni ellir weithio arno sef yn ystod amser yr offrwm ar y Sul.'
'Ai yw hyn yn wir?' gofynnodd hi.
'Yn ddiamau, mae'n wir,' dywedodd ef. 'Ni ellir fy lladd y tu fewn i dŷ' ychwanegodd, 'na thu allan iddo; ni ellir fy lladd ar farch, ac ni ellir ar fy nhraed.'
'Yn wir,' medd hithau, 'ym mha ffordd y gellir dy ladd?'
'Fe ddywedaf wrthyt,' meddai ef, 'Rhaid paratoi faddon im ar lan afon, a ffurfio to crom uwchlaw y twb a'i thoi yn dda ac yn dyn. Yna cymerir bwch gafr a'i roi wrth ochr y twb a rhoddaf innau un droad ar gefn y gafr a'r llall ar ymyl y twb. Pwy bynnag a'm trawaf yn y modd hyn, ef a wnaiff fy lladd.
'Ie,' meddai hi, 'diolchaf i dduw am hyn. Bydd yn hawdd i ti osgoi'r amodau hyn.'

Cyn gynted ac y clywodd yr ymadroddiad ac yr anfonodd at Goronwy Bebyr. Goronwy a lafuriodd ar y waywffon, ac ymhen blwyddyn 'roedd yn barod. A'r diwrnod hwnnw y perodd ef iddi wybod hyn.
'Arglwydd,' meddai hi [Blodeuwedd wrth Lleu], 'yr oeddwn yn meddwl ar ba ddelw y gallai yr hyn a ddywedaist wrthyf gynt fod yn wir. A wnei ddangos i mi sut yr wyt i fod i sefyll ar ymyl y bwch-gafr a'r twb os ymbaratoaf y baddon.'
'Fe ddangosaf,' medd ef.

Hithau a anfonodd at Goronwy a gorchmynnodd iddo fod yng nghysgod y bryn a elwir heddiw yn Fryn Cyfergyr ar lannau Afon Cynfael. Hithau a beri i holl aur y cantref gael ei ymgynnull a'i gymeryd i ochr draw yr afon, gyferbyn a Bryn Cyfergyr.

Drannoeth hi a ddywedodd: 'Arglwydd, fe berais drefnu baddon a strwythyr i'w amgáu ac maent yn barod.'
'Yn wir,' meddai yntau, 'awn i edrych arnynt yn llawen.'
Drannoeth aethant i edrych ar y baddon.
'A wnei fynd i'r baddon,arglwydd,' gofynnodd hi.
'Af yn llawen,' medd ef.
Aeth i fewn i'r baddon ac yna yr ymneiddiodd ei hunan.
'Arglwydd,' meddai hi, 'dyma yr anifeiliaid a ddywedaist eu gelwid yn fwch geir.' 'Ie,' medd ef, 'para ddal un ohonynt a tyred ag ef yma.' Ef a ddaethpwyd. Yna y cododd yntau o'i faddon a gwisgodd ei drowsus amdano ac yna rhoddodd un droed ar ymyl y twb a'r llall ar gefn y gafr.

Ar hyn cyfododd Goronwy i fyny o'r bryn a elwir Bryn Cyfergyr a chan orffwys un glin cyfododd ei waywffon gwenwynig a'i daflu fel ag y trawodd ef [Lleu] yn ei ystlys fel ag yr ymwthiodd y pelydr allan ohono a thrigodd y pen ynddo. Ac yna yr ehedodd ef ymaith yn ffurf eryr gan ddodi ysgrech anhawddgar.

Yna cyn gyflymed ac yr aeth ef [Lleu] ymaith yr aethan hwy [Goronwy a Blodeuwedd] i'r llys a'r noson honno y cysgasant ynghyd. A'r bore wedyn fe gododd Goronwy a goresgynodd Ardudwy. Wedi goresgyn y wlad fe'i gleidyddodd fel fod Ardudwy ynghyd â yn eiddo iddo.

Yna yr hanes ddaeth at Math mab Mathonwy. Gofid a thrymder ysbryd a ddaeth dros Math, ac yn fwy felly dros Wydion nac ef.
'Arglwydd,' meddai Gwydion, 'ni gysgaf fyth, oni glywaf rhyw hanes am fy nai.'
'Yn wir,' meddai Math, 'Duw a fo yn nerth i ti.'
Ac yna cychwyn a wnaeth a cherdded ymaith, a cherdded Gwynedd a wnaeth a Phowys hyd ei therfyn. Wedi cerdded drwy bob lle ef a ddaeth i Arfon nes cyrraedd tŷ mab taeog ym maenor Penardd.

Disgynnodd i fewn i'r yŷ ac yno y drigodd y noson honno. Daeth gŵ y tŷ a'i dylwyth i fewn ac ar eu hôl daeth y mochwas. Trodd gŵ y tŷ at y mochwas, 'A, was,' medd ef, 'a ddaeth dy hwch i fewn heno?'
'Daeth,' atebodd yntau, 'a'r awr hon mae gyda'r moch.'
'I ble mae'r hwch hon yn cerdded?' gofynnodd Gwydion.
'Pan agorir y creu bob dydd fe aiff allan. Ni cheir golwg arni, ac ni wyddir ba ffordd yr ai; mwy na fo'r ddaear wedi ei llyncu.'
'A wnei di,' medd Gwydion, 'addewidia na agori y creu onid wyf i wrth ei ochr gyda thi?'
'Gwnaf yn llawen,' medd ef.

Aethant i gysgu y noson honno a phan welodd y mochwas liw golau'r dydd ef a ddeffrôdd Gwydion, a Gwydion a gyfododd ac a wisgodd amdano cun dod gydag ef [y mochwas] i sefyll ger y creu. Agorodd y mochwas y creu. Cyn gynted ac fe'i agorodd dyma hithau'n bwrw ei hun allan, a cerddodd yn braf gyda Gwydion yn ei chanlyn. Cerddodd yn wrthwyneb afon cyn cyrchu'r nant, a elwir nawr yn Nantlleu, ac yna arafodd [oddi tan dderwen] a dechreuodd bori.

Gwydion a ddaeth oddi tan y pren ac edrychodd ar beth yr oedd yr hwch yn pori; ac ef a'i gwelodd yn bwyta cig pydreddus a chynron. Ac yna dyrchafodd ei lygaid i gopa y goeden. Ac yno gwelodd eryr ar flaen y goeden. A phan ysgydwodd yr eryr fe syrthiodd y cynron a'r cig pydreddig ohono a'r hwch a fwytodd rhain. Ac ef, gan ddyfalu mai Lleu oedd yr eryr, a ganodd englyn:-

Dar a dyf rhwng dwy lyn
Goruwch awyr a glyn
Onid wyf yn camsynio
Blodwraig Lleu fu achos hyn


Ymollyngodd yr eryr ei afael a disgynnodd i ganol y goeden. A canodd Gwydion englyn arall:-

Dar a dyf ar uchel faes
Nis gwlych glaw, er tawdd a ollwng drwyddi
Ugain crefft a'i chynnal
Ac ar ei chopa Lleu Llaw-fedrus


A'r eryr a ollyngodd ei afael nes daeth i gainc isaf y goeden. A canodd yr englyn yma iddo:-

Dar a dyf dan lechwedd
Nyfed i arglwydd deg
Oni gelwyddaf i
Daw Lleu i'm mhlyg


A daeth ynteu i lin Gwydion; ac yna y trawodd Gwydion ef a'i hudlath a trowyd ef [Lleu] i'w ffurf ei hunan. Ac ni welodd neb ŵr mewn truandod mwy eithafol nag yr oedd arno ef. Nid oedd dim ond croen ac asgwrn.

Aethant i Gaer Dathyl ac yno galwyd feddygon gorau Gwynedd ynghyd. Cyn diwedd blwyddyn 'roedd ef [Lleu] yn holliach.
'Arglwydd,' medd ef [Lleu] wrth Math fab Mathonwy, 'mae'n hir amser i mi gael iawn gan y gŵr y cefais ofid ganddo.'
'Yn wir,' meddai Math, 'ni all gario ymlaen fel ag y mae, a'th iawn di wedi ei atal ganddo.'
'Ie,' meddai yntau, 'gorau gennyf i po gyntaf y caf iawn ganddo.'

Yna galwasant lu Gwynedd ac aethant i Ardudwy. Gwydion a gerddodd ar y blaen ac aethant i Fur-y-Castell. Gan glywed eu bod yn dyfod Blodeuwedd a gymerodd ei morwynion gyda hi ac fe ffoasant i'r mynyddoedd. Drwy Afon Gynfael yr aethant i gyrraedd llys a oedd yn y mynyddoedd. Ac oherwydd eu hofn ni allasant gerdded ond gyda eu gwynebau yn cyfeirio tuag at eu cefnau. Ac heb sylweddoli disgynasant i fewn i lyn a boddasant i gyd heb heblaw hi [Blodeuwedd] ei hunan. [Ac o'r herwydd y gelwir y llyn yn Llyn y Morwynion].

Ac yna Gwydion a enillodd arni ac a ddywedodd wrthi: 'Ni'th laddaf di. Mi a wnaf rhywbeth gwaeth i ti. Sef hyn,' ychwanegodd, 'fe'th ollyngaf yn ffurf aderyn. Ac oherwydd y cywilydd a wnaethost i Leu Llaw Gyffes ni feiddia dithau ddangos dy wyneb fyth yng ngolau dydd, a hynny o ofn yr adar eraill i gyd. A bydd gelyniaeth rhyngot a'r holl adar eraill. A'u natur fydd i'th waedu ac i'th amharchu ble bynnag a wnânt dy gyfarfod. Ond ni gollir dy enw, fe'th alwir fyth yn Flodeuwedd.'

Sef gelwir Blodeuwedd yn dylluan yn ein iaith nawr. Ac oherwydd hyn mae'n atgas gan yr adar eraill y dylluan ac hyd-heddiw gelwir y dylluan yn flodau-wedd.

Yntau, Goronwy Bebyr, a ddychwelodd i Benllyn ac oddi yno y gyrrodd genhadau. Anfonodd genadwri a gofyn i Lleu Llaw Gyffes a wnaeth os mynai dir, neu wlad, neu aur, neu arian yn ad-daliad am ei sarhad.
'Ni chymaf, a duw fyddo fy nhyst,' medd ef [Lleu], 'a dyma y peth lleiaf a gymeraf ganddo; yr aiff i'r lle yr oeddwn i pan fy'm trawyd â'r gwaywffon a minau yn yr un lle ag yr oedd ef. Rhaid iddo adael i mi ei drawo gyda gwaywffon. A hyn yw'r lleiaf beth a dderbyniaf ganddo.'

Hyn a fynegwyd i Goronwy Bebyr. 'Yn wir,' medd yntau, ' mae'n orfodol arnaf wneud hyn. A chwi ŵyr da ffyddlon, a'm teulu, a'm brodyr maeth, a oes un ohonoch a gymerith yr ergyd yn fy lle?'
'Yn ddi-amau nid oes,' meddent hwy.
Ac o'r achos eu gwrthodiad i gymeryd dioddef yr ergyd yn lle eu harglwydd fe'i gelwir, o'r oes honno hyd heddiw, yn drydedd Anffyddlon Deulu [Ynys Prydain].
'Yn wir,' medd ef [Goronwy], 'fe a gymeraf yr ergyd.'
Ac yna daethant ill dau i lan Afon Cynfael. Ac yno y safodd Goronwy Bebyr yn yr un lle ac yr oedd Lleu Llaw Gyffes pan fe'i trawyd, a Lleu yn y lle yr oedd yntau. Ac yna dywedodd Goronwy wrth Leu: 'Arglwydd,' medd ef, 'canys o ddichell gwraig y gwneuthum i ti yr hyn a wnes, minau a ymbiliaf i ti, o flaen duw, i adael i mi osod y garreg fflat a welaf ar lan yr afon rhyngof a'r ergyd.'
'Yn ddiamau,' meddai Lleu, 'ni wrthodaf hynny i ti.'
'Yn wir,' medd ef, 'duw a'th ffynni.'
Ac yna cymerodd Goronwy y garreg a dododd rhyngddo a'r ergyd. Ac yna bwriodd Lleu y gwaywffon tuag at Goronwy a treiddiodd y garreg ac aeth drwyddi, ac aeth drwyddo ef [Goronwy] hefyd gan dorri ei gefn.

Ac yno y lladdwyd Goronwy Bebyr, ac yno y mae'r garreg ar lan Afon Cynfael yn Ardudwy a'r twll drwyddi. Ac o achos hyn fe'i gelwid hyd heddiw yn Llech Goronwy.

Lleu Llaw Gyffes a oresgynodd y wlad eilwaith, a gwledychodd yn llwyddiannus. Ac fel y dywed y cyfarwyddon ef a fu yn arglwydd wedi hyn ar Wynedd.

Ac felly y gorffennir y gainc hon o'r Mabinogi.