Ysbail Annwfn

Canmolaf y Gwledig, pendefig gwlad, brenin
a ymestynai ei beneiithiaeth dros ehangder y byd
Trefnus fu carchar Gweir yng Nghaer Siddi
yn ol ebostol Pwyll a Phryderi
Ni aeth neb cyn ef iddi
Y gadwyn trom las, gwas cywir a'i cedwi
A rhag bron Preiddeu Annwfn dicllon y canai
Ac hyd y farn parha ein bardd-weddi
Tri llenwad Prydwen, yr aethom ni iddi
Namyn saith, ni ddaeth llu o Gaer Siddi

Anrhydedder fi mewn clod, fy ngherdd a glywir
yng nghaer pedair-tŵr, pedwar a achosir gynnwrf
Mewn cerdd o'r bair pan leferid
o anadl naw morwyn ei cynnid
Crochan pen Annwfn, beth yw ei ffurf
Ymyl tywyll a perlau am ei oror
Ni ferwa fwyd llwfrddyn, ni dynghedir
Cleddf lluch Lleawg, iddi ni ddyrchafwyd
ac yn llaw Lleminawg ei cedwid
a rhag drws uffern llosgai'r llugyrn
a phan aethom gyda Arthur, trafferth dirgel
Namyn saith, ni ddaeth llu o Gaer Feddwid

Anrhyddedder fi mewn clod, fy ngherdd o glyw mawr
yng ngaer pedair-tŵr, ynys pybyr ddôr
Llif dŵr a muchudd a ymgymysgant
Gwîn gloyw y gwirod ger bron eu gosgordd
Tri llenwad Prydwen, yr aethom ni ar fôr
Namyn saith, ni ddaeth llu o Gaer Caletwch

Ni haeddid gwŷr bychan ysgrythurau'r arglwydd ohonof
tu hwnt Caer Wydyr ni welsant wroldeb Arthur
Tri-ugen can-ŵr a safai ar y mur
'Roedd annodd ymadrodd a'i gwyliadwr
Tri llenwad Prydwen a aeth ag Arthur
Namyn saith, ni ddaeth llu o Gaer Goludd

Ni haeddid gwŷr bychan, llaes eu tariannau crwn, ohonof
ni wyddant pa ddyd y crëwyd pwy
pa awr o gannol dydd y genid Cwy.
Ef wnaeth aradr nid aeth i ddolau Defwy.
ni wyddant hwy yr ych brych bras eu penffrwyn
Saith-ugain cadwyn yn ei aerwy
a phan aethom ni gyda Arthur, ymweliad galarus
Namyn saith, ni ddaeth llu o Gaer Ucheldir Duw

Ni haeddid gwŷr bychan, llac eu awydd, ohonof
Ni wyddant pa ddydd y crëwyd y pennaeth
Pa awr or cannol-ddydd y ganed y perchennog
pa anifail a gadwant, ac arian am ei ben
pan aethom ni gydag Arthur, ymrafael gofidus
Namyn saith, ni ddaeth llu o Gaer Uchel-ochor

Myneich udant fel côr cŵn
o gyfarfod âg arglwyddi a gânt wybod
Ai oes un hynt gwynt, ac un dwfr mawr
Ae un gwreiichionen tôn, cynnwrf ddi-ildio

Myneich cynnullant mewn cnud fel bleiddiennau
o gyfarfod âg arglwyddi a gânt wybod
ni wyddant pryd gwahanai ganol-nos a gwawr
neu wynt, beth ei hynt, ble y rhuthrai
ple y difa, pa dir a derfysgai
Sawl sant a gollwyd, sawl allor?
Canmolaf y Gwledig, pendefig mawr
Ni fyddaf drist, Crist a'm gwaddolaf.


Copyright © 2005, Dyfed Lloyd Evans