Proffwyda'r awen, hwy a frysiant
Cyfoeth ac eiddo a hedd a fydd gennym
ac arglwyddiaeth helaeth a penaethiaid parod
ac wedi cythrwfl, anheddfa ym mhob lle
Gwŷr gwrol yng nghyffro brwydr, rhyfelwyr nerthol
esgud mewn brwydr, tra ystyfnig mewn diffynfa.
Ymladdwyr a wasgarant yr allmyn hyd Caer Weir
Gorfoleddant wedi'r distryw.
A chymodai'r Cymry a gwŷr Dulun
Gwyddyl Iwerddon, Môn a Phrydyn
Cernywon a gwŷr Ystrad Clud fydd groeso yn ein mysg.
Ail-fywiedig fydd y Brython pan orchfygasant.
Hir broffwydwyd amser eu dyfodiad;
rheolwyr, eu meddiant drwy dras disgyniad.
Gwŷr y gogledd a fyddent ô chyntedd y llys yn eu cylchu.
yng nghanol y flaengad a ymosodasant
Proffwydai Myrddin y cyfarfuant hwy
yn Aber Peryddon â stiwardiaid yr uwch frenin
Ac er nid o'r modd, marwolaeth a alarant
o un ewyllys calon fe ymgynigiant frwydr
Y stiwardiaid a gynnull eu trethi
o drysordai'r Cymru ni fynnent dalu [dim]
Mae yn ŵr urddasol a ddywed hyn:
(ni dalai neb iddynt o'u caethiwed)
Mab Mair, mawr ei air, pam na darddiant?
Oherwydd rheolaeth y Saeson a'u balchder
Pell a fyddent, carthwyr Gwytheyrn Gwynedd
Yr allmyn a yrrwyd i alltudiaeth
ni dderbyniai neb hwy, nid oes ganddynt wlad
ni wyddant pam y crwydrant ym mhob harbwr
Pan brynasant Daned drwy dwyll cyfrwys
gan Hors a Hengist, oedd yn eu cyfyngdod
eu elwa oddi-wrthym yn anfoneddus fu
Ac wedi tranc gyfrin i'r caethion bydd cylch y goron.
Yfed llawer o fedd a olygai medddod
angau llawer a olygai angen
Gofid a olygai dagrau gwragedd
Tristwch a ddilynai teyrnasaeth gormesol
Byd newidiol a olygai tristwch.
Pan fydd carthwyr Daned yn ein tywysogion
gwrthodir y drindod y dyrniad darparol
i ddinistrio gwlad y Brython a'r Saeson yn ei feddiannu.
Bid cynted eu encilfa i alltudiad
na fyned y Cymry i ddifeddiannedd
Mab Mair, mawr ei air, pam na darddant?
Cymry, oherwydd gwarth arglwyddi ac arweinwyr
Noddwyr a'u cyfarwydd a alarai yr un modd
a'r un gân, yr un cyngor, yr un anian ydynt
Nid o falchder na drafodant
ond o hepgor gwarth na gymodant.
I dduw a Dewi yr ymgymeradwyasant
Taledant, gwrthodant, twyll yr allmyn
O angen cartref hwy a wnaethant weithredau cywilyddus
Cymry a Saeson a gyfarfuant
ar y glan yn dinistrio ac ymrythuro
â dirfawr fyddinoedd yr ymbrofasant.
ac am yr allt [bydd] llafnau a llefain a brwydro law-wrth-law
ac am y Gwy ceir cyfyr-floeddion ar y pefr-ddŵr
a llumanau a adawyd a garw ymosodiadau
Ac fel bwyd bwystfilod gwyllt y Saeson a syrthiasant
Cynhalwyr y Cymry a gyfunant i rengau
blaengad wrth gynffon [y gelyn], y gwyn-wynebwyr a gyfyngir
Y stiwardiaid, fel ad-daliad am eu celwydd a ymgreiniant yng ngwaed [eu hunan]
Eu byddin mewn gwaedlif o'u hamgylch
Eraill, ar droed, ffoasant drwy'r coed
trwy wrthglawdd caer y 'ffoxes' a ffoasant
Rhyfel ni ddychwel i dir Prydain
Yn ôl, trwy drist gyngor, fel [trai'r] môr y llithrant.
Stiwardiaid Caer Geri a alarant yn ddirfawr
rhai, yn nyffryn, ac ar fryn, ni wadasant
I Aber Peryddon, yn ffodus ni ffoant
Anaelau yw'r trethai a gasglant
naw ugain can gŵr a ymosodasant
Mawr watwar, namyn pedwar ddychwelant
Hanes y frwydr a ddywedant i'w gwragedd
eu crysau, llawn gwaed, a olchasant
Cynhalwyr y Cymry yn fyrbwyll o'u heneidiau
Gwŷr y De a ymladdant am eu trethi
Llafnfawr llym-finiog a lladdant yn llwyr
Ni fydd i feddyg fydd o'r hyn a wnânt
Byddinoedd Cadwaladr yn ddewr y dônt
Cymry a ymosodasant, brwydr a wnônt
Cyfle marwolaeth anorfod a gyrchasant
Yn niweddiad eu trethi, angau a wyddant
eraill a ymosodir i gorlannu[*] yn eu beddau
Byth eto, ni gylchasant eu trethi.
Yng nghoed, ar faes, [mewn bro,] ar fryn
Cannwyll mewn tywyllwch a gerddai gyda ni
Cynan yn tywys i frwydr ym mhob ymosodiad
Saeson a ganant eu galar o flaen y Brython
Cadwaladr yn baladr i'w unbyn
Trwy ddoethineb yn eu [y Saeson] herlid yn llwyr
Pan syrthiai eu pobol dros eu amddiffynnwyr
Yng nghystudd, a gwaed rhudd ar rudd allmyn
Fel diwedd pob craith fawr, trysor cadernid.
Sais ar hynt, hyd Gaerwynt, cyn gynted ac y cant
Gwyn eu byd y Cymry a adroddant:
y drindod a'n gwarodwyd o'r gorthrymder gynt.
Na chrynai Dyfed na Glywysig
Ni ddaw a moliant i stiwardiaid y mechteyrn
na phencampwyr y Saeson, er eu ffyrnigrwydd
Nis mwy daw medd-dod fwynhad ar ein traul
Heb taled o raid cyfaint a gawsant
o feibion amddifad ac eraill yn newynog
trwy eiriolaeth Dewi a seintiau Prydain
Hyd ffrwd Ailego[**] a giliai'r allmyn
Proffwyda'r awen, fe ddaw y dydd
pan ddaw'r Iwys i un cyngor
un blaid, un cyngor a llosgwyr Lloegrys
yn gobeithio cywilyddu ar ein gwesteiwyr gogoneddus
a'r allmyn a gerddasant — beunydd ar ffo
Ni ŵyr ble yr ymdeithia, ble arhosai, ble yr ai.
Rhuthrant i frwydr fel arth o fynydd
i ddial gwaedlif eu cymharon
Dyfal lif fydd hyrddianau'r gwaywffyn
Ni arbedai gymrodorion gyrff eu gwrthwynebwyr
Fe fydd pen holltedig heb ymennydd
Fe fydd gwragedd gwelw a meirch ddi-farchog
Fe fydd llefain dychrynllyd rhag rhuthr rhyfelwyr
A lliaws llaw-anafedig cyn gwasgaru'r lluoedd
Cennadau angau a gyfarfyddant
pan safai'r celain i gynnal eu gilydd
Ef ddialai'r treth a'r taliadau beunydd
a'r mynych genhadau a'r lluoedd drygionus.
Trechai'r Cymry drwy frwydr
yn gyweir, cydun, gyd-air gydffudd.
Goroesa'r Cymry i beri brwydr
a llwythau llawer gwlad a gynnullant
a lluman sanctaidd Dewi a ddyrchafant
i ddwyn y Gwyddel â lluman lliain
a phaganiaid Dulun a safant gyda ni
pan ddônt i'r frwydr ni ymadawant
gofynnant i'r Saeson pwy a geisiasant
Faint o'r wlad a ddaliant o hawl?
Ble mae eu tiroedd, o ble y seiliasant?
Ble mae eu cenedl, o ba fro y daethont?
O oes Gwytheyrn, ni a sathrasant
Ni gawsant o hawl dreftadaeth ein ceraint.
neu freintiau ein seintiau — pam eu sathrant?
Neu iawnderau Dewi, pam y dinistriant?
Gofala'r Cymry pan welant eu gilydd
na ymadawa'r allmyn o'r lle y safant
hyd pan dalant seithgwaith gwerth yr hyn a wnânt
a diau angau fel tâl am eu can
Ef dalai a grym ceraint Garman
y bedair blynedd ar bedwar cant.
Gwŷr gwrol, gwallt hirion, meistri ymladd
dônt o Iwerddon i ddiarddel y Saeson
daw llynges rheibus o Lego
difrodir mewn brwydr, rhwygir y lluoedd.
O Alclud daw gwŷr dewr, pybyr
i'w deol Brydain, mirain luoedd
O Lydaw daw câd-gwmni teg
rhyfelwyr ar gâ-feirch, ni barchant eu gelynion
Gwarth a ddaw i'r Saeson o bob rhan
Eu hoes sydd drosodd, nid oes iddynt dir
angau a fydd i'r byddinoedd duon.
Clefydd a goddefaint a llif gyfnewidiol
Wedi (mwynhad) ardduniadau aur ac arian
boed perth eu lloches, yn ad-daliad eu drycffudd
boed môr, boed angor, eu cynghorwyr
boed gwaed, boed angau eu cydymdeithion
Cynan a Chadwaladr â lluoedd rhagorol
Edmygwynt hyd y farn, ffawd dda fydd iddynt
Dan arweiniwr diysgog, dwys eu cyngor
dau oresgynnwyr y Saeson o blaid duw
dau hael, dau urddasol ysbeilwyr gwartheg gwlad
dau wrol barod, un ffawd, un ffudd
dau amddiffynnwyr Prydain, â lluoedd gosgeiddig
dau arth, ni wna frwydro beunydd warth iddynt
Proffwyda derwyddon beth a ddigwydd
O Fanaw hyd Llydaw, yn eu llaw fe fydd
O Ddyfed hyd Daned, hwy fydd biau oll
O'r Wal hyd Gweryd, ar hyd yr herbyr
Lledai eu peneithiaeth dros Archwydd[⁂].
Ni fydd dychweliad i dylwythau'r Saeson
Dychwelai'r Gwyddyl i'w cydymdeithion
Ail-ddyrchafa'r Cymry, llu teg
[eu] byddinoedd wrth gwrwf a thwrw milwyr
a theyrnaswyr Duw a gadwasant eu ffydd
Iwis a ânt i'w llyngesau, cynnwrf a ddarfu
a chymod fydd rhwng Cynan a'i gymar.
Ni elwir allmyn yn ryfelwyr
namyn caethweision Cadwaladr a'i gyfnewidwyr
Meibion Cymry, llawen llafar a fyddent
am drallodwyr yr ynys, haid a derfi
pan safai'r celain i gynnal eu gilydd
hyd aber Santwis, swynedig fydd!
Allmyn a gychwynasant i alltudiaeth
un ar ôl y llall yn dychwel i'w câr
Saeson wrth angor ar fôr beunydd
Y Cymry, duwiol hyd y farn, yn fuddugol fydd.
Ni cheisiasant swynwyr na phrydydd barus
Armes i'r ynys hon, namyn hyn ni fydd:
Moliant i'r brenin a greodd nef a daear
boed Dewi yn dywysog i'r milwyr.
yng nghyfyngdod Celi Gaer yw a'm duw sydd [yn arweinydd]
ni farwir, ni ddieinc, ni enciliai
ni edwinai, ni wrthodir, ni anwadalai ac ni wnaiff leihau.