Seithennin, saf di allan
ac edrycha ar ferw’r môr:
Maes Gwyddno a'i orchuddwyd
Boed felltigedig y forwyn
a’i gollyngodd wedi gwledd —
tywalltwr ffynnon garw'r môr
Boed felltigedig y ferch
a’i gollyngodd wedi’r frwydr
tywalltwr ffynnon y môr diffaith.
Gwaedd Mererid o uchelfan y gaer;
at Dduw y’i cyfeirir.
Arferol yw tranc mawr yn sgîl balchder.
Gwaedd Mererid oddi ar uchelfan y gaer heddiw;
hyd at Dduw ei hymbil.
Edifeirwch sy'n arferol yn sgîl balchder.
Gwaedd Mererid sy’n fy nghyffroi heno,
ac ni hwylusa [unrhyw] lwyddiant i mi.
Cwymp sy'n yn arferol yn sgîl balchder.
Gwaedd Mererid oddi ar gefn ceffyl gwinau hardd;
Duw hael a’i gwnaeth.
Cyflwr anghenus sy'n arferol yn sgîl gormodedd
Gwaedd Mererid sy’n fy ngorfodi heno
oddi wrth f’ystafell.
Mae tranc pell yn arferol yn sgîl balchder.
Bedd Seithennin aruchel ei feddwl
rhwng Caer Genedr a glan y môr:
arweinydd mor ardderchog [ydoedd]