Pa ŵr yw y porthor?
Glewlwyd Gafaelfawr
Pa ddyn a ofyna hyn?
Arthur a Chei Deg
Pa [fintai] sydd gyda thi?
Gwŷr gorau yn y byd.
I'm tŷ ni gânt ddod
ony gwaredid hwy [i mi]
Mi a'u gwaredid
a thi a'u gwelei
Helgŵn Elei,
gwŷr doeth ill tri.
Mabon fab Modron
Gwas Uthr Pendragon
Cysgeint fab Banon
a Gwyn [fab] Goddybrion
Ffyrnig oedd fy ngweision
wrth amddiffyn eu hawliau:
Manawyddan fab Llŷr
dwys oedd eu gyngor
(yn ddiau) Manawyd[dan] a ddugwyd
tarian tyllog o Ddryfrwydd
a Mabon fab Mellt
ystaenai waed ar y glaswellt
ac Angwas Adeiniog
a Lluch Llafniog
amddiffynwyr oeddynt
o Eiddin a'i ffiniau
arglwydd a'u llochasant
fy nei wnaeth iawn im
Cei a ymbiliodd iddynt
tra'u lladdent bob yn dri
Pan gollwyl Celli
cafwyd greulondeb.
Gwawdiai Cei hwynt
hyd tra fe'u golwytha
Chwarddai Arthur
er llifiad y gwaed
yn neuadd Awrnach
tra ymladdei a gwrach.
Ef a drawodd Pen Palach
yn anheddfa Dissethach
Ym mynydd Eiddin
ymladdodd â Chinben
Fesul cant y cwympasant
Cwympasat wrth y cant
Rhag Bedwyr Perfaith Ewyn
ar lannau'r Tryfrwyd,
yn ymladd â Garwlwyd
Ffyrnig oedd ei natur
â chledd a tharian.
'roedd llu yn ddiwerth
yn erbyn Cei yng nghâd
'Roedd gleddyf i'r gâd
o'i law daeth addewidiau.
Roedd arweinydd gwastad
ar leng o les gwlad.
Bedwyr a Brydlaw[[*]
naw cant i wrando
chwechant i wasgaru —
dyma werth ei gyrch.
Gweision fu ganddof
'roedd well pan fywiant.
Rhag rhiau Emrys[[**]
gwelais Cei ar frys
Arglwydd yr ysbail
'roedd y 'gŵr hir' yn elyniaethus
'roedd drwmei ddial
'roedd dost ei elyniaeth
pan yfei ei wyeil [waed]
yfei wrth bedwar
ym mrwydr pan ddaeth
wrth y cant y lladdei
Oni bai duw a'i fynnei
amhosib yw tranc Cei
Cei Deg a Llacheu
Digonant mewn cyflafan
cyn frathiad gwaywffyn glas
ar ucheldir Ystafingwyn.
Kei a wantodd tair gwrach
Cei deg a aeth i Fôn
i ddileu llewon[[§]
ei darian a dorrwyd
yn erbyn y Cath Palug
Pan ymofynai pobol:
'Pwy laddod y Gath Palug?'
Naw-ugein rhyfelwyr
a gwympei yn fwyd iddi
naw-ugein arewinwyr câd
a ...
[Yma terfynir y ddalen]