[Unhwch Dunawd ac Urien]
Unhwch y ffyrnig a ddywaid wrthyf
Llidiog yn ei ddicter
'Gwell yw lladd nac erfyn cytgord'
Unhwch y ffyrnig a ddywaid wrthyf
Bei achosir cyflafan
Llawenid llu ei lywio'n dda
Unhwch y ffyrnig a ddywaid wrthyf
Dywedodd ym mwlch Llech
'Dunawd mab Pabo ni gilia'.
Unhwch y ffyrnig a ddywaid wrthyf
Ei chwerthin mawr yn tarannu
Cyffro'g gâd, [buddig iôr]
Urien Rheged, angerddol, gafael eryr
Gelyn Unhwch, hael a dewr
Cynddeiriog ryfelwr, hael dywysog
Urien [Rheged], angerddol, gafael eryr
Gelyn Unhwch, cyfoeth mawr
Bwtri Llŷr, aberau cain, gorlenwai fordd ei wŷr
[Pen Urien]
Pen a borthaf af fy ochr
Bu ymosodwr rhwng dau lu
Mab Cynfarch balch a'i biau
Pen a borthaf af fy ochr
Pen Urien, yn hael llywiai ei lu
Ac ar ei fron wen, brân ddu
Pen a borthaf o fewn fy nghrys
Pen urien, hael llywiai ei lys
Ac are ei fron wen brain a'i ysa
Penn a borthaf yn fy llaw
Bugail Erchwydd oedd ef
Bron teyrn treilwyd gan ffon
Pen a borthaf ar fy nghlun
'Roedd tarian i'w wlad; 'roedd farch yng nghâd
'Roedd cynhaliaeth ym mrwydr, rhwyd i'w elynion
Pen a borthaf ar fy chwith
Gwell oedd fyw nac yn ei fedd
— hyn oedd noddfa ei henoed
Pen a borthaf of dir Penawg
Pelleuol ei ymgyrch
[Pen] Urien. Pell adroddir ei enwogrwydd
Pen a borthaf ar fy ysgwydd
Ni'm gwaradwyd am ei gymeryd
Gwae fy llaw a drawodd fy arglwydd
Pen a borthaf ar fy mraich
hwn a ddarostwng tir Bryneich
A fu'n gawr nawr yn elor faich
Pen a borthaf yng ngafael
Fy llaw; arglwydd hael, llyw ei wlad
Pennaeth, post Prydain, dygwyd ymaith
Pen a borthaf a'm cynhaliwyd
Ymadawodd, i'm colled
Gwae fy llaw, a wnaeth a llym weithred
Pen a borthaf o riwiedig dir
Are ei enau ewyn
o waed: gwae fydd i Reged o heddiw
Marwol fy mraich, fy mron a gyffroid
Fy nghalon a dorrwyd.
Pen a borthaf yng ngafael
[Corff Urien]
Corff bonheddwr a gleddir heddiw
'Dan bridd a meini
Gwae fy llaw, a laddodd tad Owein
Corff bonheddwr a gleddir heddiw
Ym mhlith pridd a'r cyndeidiau
Gwae fy llaw a drawodd fy nghefnder
Corff bonheddwr a gleddir [heddiw]
Ym mhlith pridd a thyweirch
Gwae fy llaw a drawodd mab Cynfarch
Corff bonheddwr a gleddir heddiw
'Dan fedd ac arwydd
Gwae fy llaw a drawodd fy arglwydd
Corff bonheddwr a gleddir heddiw
Oddi tan bridd a thywod
Gwae fy llaw, y ffawd a syrthiodd im
Corff bonheddwr a gleddir heddiw
Oddi tan bridd a danadl
Gwae fy llaw a ddwynodd fy ffawd
Corff bonheddwr a gleddir heddiw
Oddi tan bridd a meini gleision
Gwae fy llaw, a ddwynodd fy ffawd
[Rhyfeddod]
Rhyfeddod, pan fewn barn a gynulliant
Wrth gyrn medd, wrth llestri gwîn
Llu yr arglwydd, gwŷr Rheged
Rhyfeddod, pan fewn barn a gynulliant
Wrth gyrn medd, wrth byrddau'r wledd
Llu yr arglwydd, gwŷr Rheged
[Efrddyl] (Chwaer Urien)
O Efrddyl, aflawenid a ddaw heno
Ac amryw luoedd
Yn Aber Lleu lladdwyd Urien
Os trisy yw Efrddyl o'i thrallod heno
A'r ffawd a ddaeth im
Yn Aber Lleu lladdwyd ei brawd.
[Rhun]
Dudd Gwener gwelais y [digwyddiad] truenus
Lluoedd mawr y bedyddiol
Haid [o wenyn] heb eu harweinydd
Pe na roddaf i Rhun o'r Cyfoeth Mawr
Can llu a chan tarian
ac un llu oedd well na noethni mawr
Pe na roddaf i Rhun, llyw teg
Can tref a chan gwersyll
ac un tref oedd well na hwy
Yn oes Rhun, arweinydd câd
Ail gydio ein byd a fydd
Y caethion pechadurus ar feirch
[Anaf]
Mawr fe wn, fy anaf,
Ar glyw pob dyn ymhob haf
Ni wyr neb ddim amdanaf
[Dwy Blaid]
Pwyllai Dunawd, marchog gweiniol
ar y bore y gwneuthur celain
Yn erbyn rhuthr Owein
Pwyllai Dunawd, arglwydd ei dir
ar y bore y gwneuthur frwydr
yn erbyn rhuthr Pascent
Pwyllei Gwallawg, marchog brwydr
ar y bore y gwneuthur tranc
Yn erbyn rhuthr Elphin
Pwyllai Brân mab Mellryn
fy neoli, llosgi fy aelwydi
Blaidd yw a udai wrth fynedfa!
Pwyllai Forgant, ef a'i Ŷyr
fy neoli, llosgi fy nhiroedd
Llug a grafai wrth glogwyn
Pwyllais i pan laddwyd Elgno
Blingai lafn ar ei furiau
Pyll a phebyll o'i fro
Eto a welais, wedi ymladdfa y frwydr
tarian ar ysgwydd Urien
Eiliogeath fu yno gan Elgno Hen.
I Erchwydd aethant o angenrhaid
O farw marchog gan waewffon
A fydd fyth Urien arall?
Mor foel fy arglwydd, mor ddewr ei natur
Nid cariad ei gadwyr a gawsai
Dinistrwyd lluoedd y Gwledig
Angerdd Urien sydd dristwch im
hwy a gyrchant pob bro
Yn sgîl Llofan Llaw Diffro
[Diffeithio Aelwyd Rheged]
Tawel yr awel dros fro Hirglyw
prin beth sy'n haeddu moeliant
ni ddaw tebyg i Urien eto
Llawer i gi dewr a hebog grymus
a'u llithwyd ar y llawr
Cynt bu Llys, nawr 'does dim ond crugau
Yr aelwyd hon a'i chlawr llwyd
Ar ei llawr, arferai nifer
a erchai medd a meddwon
Yr aelwyd hon, nis cudd â danadl
Tra fu fyw ei gwarchodwr
* * *
Yr aelwyd hon, ni chuddied â gwiberlys
Cyn marwolaeth Owein ac Elphin
Berwai ei ysbail-beir
Yr aelwyd hon, ni chuddied gan llwydi gwlydd y dom
Porthiant ei bodoliaeth,
Cleddyfod dyfal diarswyd
Yr aelwyd hon, ni chuddwyd gan gain fieri
boncyffion llosg oedd yno
Gwŷr Rheged a rodiai yno.
Yr aelwyd hon, ni chuddwyd gan ddrain
Amryw arwr a drigai yno
er cymwynas ffafriaeth Owein
Yr aelwyd hon, ni fu twmpathi morgrug
Tra'i goleuwyd gan ganhwylli brwyn
gloyw, a chyd-wleddwyr cywir
Yr aelwyd hon, ni dyfai dail tafol
Are ei llawr, arferai llawer
ofyn an fedd a meddwon
Yr aelwyd hon, ni dyllai moch
Tra atseiniai galwadau llon
gwyr am gyrn medd cyfeddwch
Yr aelwyd hon, ni grafai ieirach
ni wyddei neb ddioddefaint trais
tra bywiai Owein ac Urien
Y golofn haearn hon, a'r un draw
Amdanynt yn aml bu
galwadau llon llu a llwybrau gwasanaethwyr