Annerchiad Cyntaf Taliesin

Annerchiad cyntaf a geir pan ddarllenir

Pa un fu gyntaf: ai tywyllch, ai goleuni?
Neu addaf, pan yn bod, pa ddydd ei grewyd?
Pe o fewn toriad, ar beth y sefai?
Yr hwn yw llengwr, ond ddim mewn bwriad?
est qui peccator am niferiaid
Collant hwy gwlad y nef, plwyf offeiriaid
Borau meddai'r cyndyn
Os gawsant tri pêl.
Eingl a chall Wyddel
A wnânt ryfel
Pan ddaw nos a dydd
Pan fydd eryr llwyd
Pan yw tywyllwch nos
Pan yw'r llinos yn wyrdd
Mawr onid yn hualog
O ble a nis gwelais
ble mae tair tarddle
Y mynydd, hi a wyr
be sydd yng ngaer garthan
O dan don fe'i cawn
lled-rhith gyfarchwr
Pa enw yw un y porthor?
Pwy wnaeth wasanaeth gweddi
I fab mwynol Mair?
Pa fesur fwy Iôr
A wnaeth Adda
Pa fesur Uffern
Pa mor dew y llen?
Pa mor llydan ei enau
Pa faint ei faenau
neu flaen coeden llwm
Pam y gollyngid ni'n orgrwm?
neu beth yw arbennigrwydd Môn
sydd yn eu gwraidd
Neu Lleu a Gwydion
A wnant gelfyddydion?
Neu a wyddant lyfr yr I�F4;
Pa bryd a wnânt?
pan ddaw nos a llanw
Pan fydd y tranc?
Pa le ai nos rhag dydd?
pan ddaw nis ormestir
Pater noster ambulo
gentis tonans in adjuvando
sibilem signum
rogantes fortium

oherwydd teilyngdod, urddas o bopty'r cymoedd
gan y ceisiiasant, y ddau gelfyddwr
Am gaer Cerwiddan Cerinddydd
Rhag cynyddu erfyniadau Pector Dafydd
Cymaint eu mwynhad
is y dŵ ewynnog
Fe'm ceid mewn angerdd
Cymry yn griddfan
Profa rwyg eneid
rhag gyffroi ei lwyth
Cymry, prif druaniaid
Y lle colled yr offeren
Gwaedd hir uwch gyfaill
I'r brwydr enwog
Daethant a gwarth mawr
Coed-feirch dy arfordir
Eingl yn eu torf
a welasant arwyddion
lladdfa ar Saeson
dau frenin ddim yn Seion
o'r arweinydd ni fu sôn
boddheir prif seiriau
rhag Ffichtiad llawen
Marini Brython
A daroganai hon
A medi yr hyn hewyd
am afon Hafren
lledr, furf cain a meddal
Ffis amala, ffur, fir, sel
dwfnfeddau truanieid; iddynt am oes
Hai! i'r creawdwr, goleuni'r cenedl-ddyn
dydd gogoniantau'r gospell
gofidion cwta gosgordd y mur
Cornu ameni dur
fe fûm gyda gwŷr celfyddon
Gyda Math neu gyda Gofannon
Gyda Eunydd, gyda Elestron
fy nghyd-ymdaith �E2; chreawdur
Blwyddyn yng nghaer Gofannon
'Rwyf hen, 'rwyf newydd, 'rwyf Wion
'Rwyf gyflawn, 'rwyf ddoethineb Keinion
dwynasant ddyheadau'r Brython
Gwyddyl arfog, cyfrwys
Gwneuthurwyr medd, meddw
'Rwyf fardd, 'rwyf yn un â'r ceirw
'rwyf arweinyddd, 'rwyf ddoeth mewn ymryson
diwerth hau, yr hwn sy'n aredig, heu a pheidio medi
diwerth ffrir yn ei ffreutur
pos barddol, ein balchder a gynyddai
a daethant uwchlaw y llestri medd
a canasant farddoniaeth cain
a ceisiasant wobr nis fydd
heb gyfraith, heb iawnder, heb roi
ac wedi hynny darogan
Bydd rhyfel a bydd cyffro
Paid erfyn heddwch — ni fydd
Rheolwyr nef sydd fawr dy weddi
[bodlonrwydd] Rhag ei benlinio, annedd ei foli
Arglwydd, frenin gorfoleddus, a'm cyfarch yn gelfydd
A welaist y dominus fortis [arglwydd ddewr]
proffwydo dyfn deus
I fudd Uffern
hic nemo in por progenie
Ef a ryddheir ei dorf
Dominus virtutum
Y caethion a gynullwyd
este iste est
A chyn buaswn yn simsan
Ar yr Iôr, bendith o dderw i dduw yn ddiau
A chyn y mynnaf derfyn fy nghread
A chyn dal ewyn poer ar fy ngenau
A chyn fy uniad ar lathau pren
Bydded i'm enaid atgyfodi
Prin y cyfarwyddir llythyr llyfrau am
Cystudd tywyllu wedi gwely angau
Ar fawl â glywodd fy llyfrau uchel.
Fe brynasant wlad nef a ac arddel y goreu